Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023

 

 

Pwynt 1 – Craffu Technegol:

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt hwn a bydd yn mynd ati i wneud cywiriadau cyn gynted ag y bo modd.

Pwynt 2 – Craffu Technegol:

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt hwn a bydd yn mynd ati i wneud cywiriadau cyn gynted ag y bo modd.

Pwynt 3 – Craffu Technegol:

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi’r diffiniad eang a ganlyn o “deddf”:

Un o’r corff rheolau sy’n rhwymo deiliaid gwlad, &c., tan berygl cosb o’u torri, cyfraith; act unigol o ddeddfwriaeth, mesur (seneddol), ystatud, ordeiniad, gosodedigaeth, gorchymyn;

Rydym hefyd yn nodi bod dau derm gwahanol, h.y. “act” a hefyd “law”, yn cael eu rhoi i gyfateb i “deddf” mewn ffynonellau terminoleg awdurdodol eraill megis y Porth Termau a’r Termiadur Addysg O’r herwydd, nid yw’n dilyn y byddai “deddfau perthnasol” o reidrwydd yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at ddeddfwriaeth sylfaenol yn unig.

Term a ddefnyddir yn aml i gyfleu ystyr ehangach amrediad o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yw “cyfraith”. Fodd bynnag, pan ddefnyddir y lluosog “cyfreithiau” gallai hyn hefyd gael ei ddehongli i olygu naill ai gorff helaeth o gyfraith, neu ystyr mwy cul, sef Deddfau sylfaenol.  

Y bwriad yma oedd cyfleu amrediad eang o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ac rydym yn fodlon bod y ddwy iaith yn cyfleu hyn.

Pwynt 4 – Craffu ar Rinweddau:

Mae’r telerau y cytunwyd arnynt yn y cytundeb masnach rydd (“yr FTA”) rhwng Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a’r Deyrnas Unedig wedi bod yn destun y prosesau craffu seneddol gofynnol. Cafodd ymgynghoriad a oedd yn cynnwys y DU gyfan ei gynnal ar y broses o weithredu Pennod 12 o’r FTA rhwng 27 Ionawr 2023 a 10 Mawrth 2023.  Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad pellach wedi’i dargedu â rheoleiddwyr Cymru ym mis Hydref 2023.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod ymgynghori priodol wedi ei gynnal a’i fod yn bodloni gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.

Mae’r diwygiadau i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a wneir gan Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 yr un peth o ran sylwedd â’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023, a’r rheoliadau cyfatebol ar gyfer yr Alban, sef Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Diogelwch Bwyd (Gweithredu Cytundebau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol Rhyngwladol) (Diwygiadau Amrywiol) (Yr Alban) 2023.

Pwynt 5 – Craffu ar Rinweddau:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU yn ystod y broses o ddatblygu’r Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023 ar gyfer y DU gyfan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro ei bod yn annerbyniol i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â deddfu mewn meysydd datganoledig heb ofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru na’r Senedd.  Gwnaethom gadarnhau gyda Llywodraeth y DU y byddem yn datgymhwyso Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023, a gwnaethom rannu drafft o Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 ym mis Medi 2023. 

Cynhaliodd Llywodraeth y DU gyfarfodydd misol â’r holl Lywodraethau Datganoledig yn ystod 2023 i drafod gweithredu Deddf Cymwysterau Proffesiynol (2022), ynghyd â’r cynnydd a wnaed ar Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU y dyddiadau ar gyfer y dadleuon Seneddol ar Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023 ar 16 Tachwedd.